Blwyddyn 6

Mae 30 o ddisgyblion gweithgar yn nosbarth prif ffrwd blwyddyn 6 ar hyn o bryd. Miss Hargreaves yw’r athrawes ddosbarth ym mlwyddyn 6 ac fe’i cefnogir gan Miss Lloyd, cynorthwyydd addysgu.

Cynhelir llythrennedd a rhifedd bob bore, ar wahân i fore Mercher. Yn aml mae’r sgiliau y mae’r disgyblion yn eu dysgu yma yn cael eu trosglwyddo i’r pynciau sylfaen, sy’n cael eu dysgu yn y prynhawn. Dysgir yr holl bynciau sylfaen trwy themâu. Hyd yma eleni mae disgyblion wedi mwynhau dysgu am ‘Yr Ail Ryfel Byd’, ‘Dathliadau Crefyddol’, ‘Chwedlau Cymreig’ a ‘Newid yn yr Hinsawdd’. Rydym yn nofio bob bore Mercher ac yn cael Addysg Gorfforol ar brynhawn Gwener.

Ym mlwyddyn 6 mae disgyblion yn mwynhau cyfle i gymryd rhan yn y cynllun JACs. Mae hyn yn caniatáu i ddisgyblion brofi gwersi cymorth cyntaf, coginio a gwaith coed, sy’n para un tymor yr un. Mrs. Northover sy’n dysgu’r rhain ar brynhawn dydd Mercher.

Ein prif nod i flwyddyn 6 yw paratoi disgyblion at yr ysgol uwchradd. Gan hynny rydym yn gweithio’n gynyddol ar ddatblygu dysgu yn annibynnol a chyfrifoldeb, yn yr ystafell ddosbarth ac o amgylch yr ysgol.

Er ein bod ni’n gweithio’n galed ym mlwyddyn 6, rydym bob amser yn cael cyfle i fwynhau! Mwynhau llawer o gemau i gefnogi dysgu ac ymweliadau, megis i’r Ffair Wyddoniaeth. Bob blwyddyn edrychwn ymlaen at ein Gwasanaeth Gadael blynyddol, brwydr ddŵr a chysgu dros nos yn yr ysgol i gloi amser gwych y disgyblion yn Ysgol Llwyn-yr-Eos.

Comments are closed.