Derbyn

Dosbarth Derbyn

Croeso i’r dosbarth derbyn! Miss Bonner yw athrawes y dosbarth, ynghyd â chefnogaeth dwy gynorthwyydd addysgu Mrs Milliner a Mrs Miles. Ein nod yw annog, cefnogi a meithrin dysgwyr hyderus a hapus o fewn ein dosbarth.

Mae’r dosbarth derbyn yn mwynhau ymdriniaeth hwyliog a brwdfrydig tuag at bob agwedd ar eu dysgu, y tu mewn ac yn yr awyr agored. Rydym yn ffodus bod gennym fynediad parhaus at ein darpariaeth awyr agored lle gall plant ddewis datblygu eu sgiliau trwy chwarae yn y dŵr a thywod, creu lluniau ar y bwrdd du, chwarae’n llawn dychymyg yn “sied yr adeiladwr” a defnyddio’r sgiliau corfforol hynny yn ein dosbarth beiciau cydbwysedd!

Mae ein ffrindiau yn yr ystafell ddosbarth yn chwarae rhan enfawr yn ein dysg wythnosol trwy chwarae, rydym yn gwrando ar ein plant ac yn caniatáu iddynt gyfrannu syniadau a heriau yr hoffent eu cyflawni. Trwy gydol y flwyddyn derbyn, bydd plant yn dod yn hyderus wrth adnabod a ffurfio rhifau a synau; gan ddefnyddio’r holl adrannau cyffrous o fewn y dosbarth i gymhwyso’r sgiliau hynny. Themâu ein dosbarth yw “Ein byd”, “Pobl sydd yn ein helpu ni” a “Glan y Môr”, rydym yn manteisio ar  bob cyfle i fod yn actif ac arbrofol yn ein dysgu o fewn a’r tu allan i’r dosbarth gyda nifer o ymweliadau â’n hardal leol ac Aberystwyth.

Rydym i gyd yn rhan o dîm yn y dosbarth derbyn lle’r ydym oll yn defnyddio ein dwylo, traed a geiriau caredig – rydym oll yn dysgu i roi 5 fel ein bod ni’n barod i ddysgu. Rydym yn mwynhau llaeth a ffrwythau gyda’n gilydd bob dydd, ynghyd â’n hamser “bod yn agored/teimladau” dyddiol lle byddwn ni’n cael ein clywed a’n cefnogi i drafod ein teimladau.

Comments are closed.