BLWYDDYN 1

Mae’r plant ym Mlwyddyn 1 yn mwynhau amgylchedd mawr, helaeth gyda mynediad uniongyrchol i’r awyr agored. Mae ein hystafell ddosbarth yn fywiog ac yn caniatáu inni gael mynediad at amrywiaeth o ardaloedd sy’n cefnogi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Yn unol ag addysgeg ac amcanion Cyfnod Sylfaen, rhoddir cyfle i blant ddysgu trwy brofiadau ymarferol cymaint â phosibl. Rydym yn defnyddio ein siop ddosbarth, ardal adeiladu, chwarae rôl awyr agored ac ardaloedd llythrennedd i gyfnerthu, ymestyn a chyfoethogi’r hyn yr ydym yn ei ddysgu yn ein tasgau ffocws gydag oedolyn. Rydym yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynnar ac yn mynd i’r afael go iawn â sgiliau darllen, ysgrifennu a Rhifedd cynnar ynghyd â mwynhau gweithgareddau corfforol a chreadigol.

Rydym yn defnyddio’r amgylchedd o amgylch yr ysgol ac ymhellach pa bryd bynnag mae hynny’n bosibl. Awn am dro o amgylch Penparcau i ddysgu am ein hardal leol ac i leoliadau eraill megis siopau, Pen Dinas a’r parc. Mae gwersi Kerbcraft yn ein helpu ni i ddysgu am fod yn ddiogel pan rydym allan ac fe’n hanogwn i gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch ein hunain a’n ffrindiau. Rydym yn ceisio cysylltu’r hyn yr ydym yn ei ddysgu yn yr ysgol â sefyllfaoedd go iawn er mwyn inni wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas.

Yn gyffredinol, rydym yn dilyn tair thema yn ystod y flwyddyn, sef, Anifeiliaid Rhyfeddol, Bwyd Blasus Bendigedig a’n Hoff Straeon ond gan fod y plant yn helpu gyda’r cynllunio rydym yn mynd i wahanol gyfeiriadau. Yn y dosbarth, y plant sy’n ‘Gyfrifol am ddewis’ ac mae hyn yn golygu eu bod yn helpu i gynllunio peth o’r ddarpariaeth a’r gweithgareddau – mae llais y disgybl yn bwysig iawn i ni.

Mae hunan-barch a hyder ac ymddygiad da yn bwysig i ni hefyd. Rydym ni gyd yn gwybod sut i roi 5 a siarad am ein hemosiynau a’n teimladau mewn sesiynau ‘bod yn agored/check-in’. Mae ein hathrawon yn ein helpu i roi trefn ar ein problemau a thrafod er mwyn gwneud pethau’n well. Mae croeso i’n rhieni a’r oedolion sy’n gofalu amdanom ddod i siarad â’n hathrawon ac mae croeso iddynt ddod i mewn i’r dosbarth bob bore. Rydym yn mwynhau amserau cymdeithasol bob dydd wrth yfed ein llaeth a bwyta ein ffrwyth gyda’n gilydd ac yn mwynhau gwasanaethau gyda gweddill y plant yn ein hysgol. Rydym wrth ein bodd ag Addysg Gorfforol a Rhoi 5 sydd yn ein helpu ni i ddefnyddio’n hegni a chanolbwyntio o’r newydd!

Comments are closed.