Blwyddyn 4

Mae 25 o blant yn nosbarth prif ffrwd Blwyddyn 4, ac yn aml mae 3 o blant o ALC2 yn ymuno â ni. Mae staff y dosbarth yn cynnwys Ms Suzanne Llewelyn, Cynorthwyydd Addysgu a Mrs Jane Thorogood, Athrawes Ddosbarth.

Mae dysg y plant wedi’i seilio ar themâu,  sy’n newid bob hanner tymor. Mae gwybodaeth am y thema gyfredol ac unrhyw ddigwyddiadau sy’n digwydd yn y dosbarth ar gael ar yr hysbysfwrdd y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn y coridor gyferbyn â’r neuadd iau.

Eleni rydym wedi cael ymweliadau gan Rhoda Dwyer a drafododd ei gwaith gyda Jubilee Storehouse, Chloe Griffiths a’n haddysgodd am blanhigion ac anifeiliaid ar Ben Dinas, a Toby Driver, archeolegydd, a ddaeth â chrochenwaith Rhufeinig a chanfyddiadau diddorol eraill gyda fe i ni gael eu gweld. Fe wnaethom ymweld â Hwb, Fforwm Penparcau, am daith o amgylch yr adeilad newydd a diod bach yn y caffi newydd.

Comments are closed.