Blwyddyn 5

Mae 20 o blant yn nosbarth prif ffrwd Blwyddyn 5. Mrs Meredith yw athrawes Blwyddyn 5 ar hyn o bryd gyda Mr James a Mrs Mansfield yn addysgu Addysg Gorfforol, Cerddoriaeth a Gwyddoniaeth bob wythnos. Mae Blwyddyn 5 yn cael eu cefnogi gan gynorthwywyr addysgu Miss Anna a Miss Katie hefyd.

Y tymor hwn mae Blwyddyn 5 wedi bod yn dysgu am y testun Afonydd. Mae disgyblion wedi creu ffeiliau ffeithiau, posteri a phwyntiau pŵer diddorol iawn am rai o afonydd enwocaf y byd. Mae Blwyddyn 5 wedi bod yn dysgu am stori Gristnogol Moses hefyd.

Ar gyfer Diwrnod Llyfr y Byd ymwelodd Blwyddyn 5 â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth a gwrando ar ddetholiad o awduron enwog yn trafod eu gwaith. Ymwelodd Blwyddyn 5 hefyd â’r Ffair Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a mwynhau profiad rhyngweithiol gwych!

Comments are closed.