{"id":2695,"date":"2018-09-11T16:50:11","date_gmt":"2018-09-11T15:50:11","guid":{"rendered":"http:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/?page_id=2695"},"modified":"2018-09-11T16:50:11","modified_gmt":"2018-09-11T15:50:11","slug":"lles","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/","title":{"rendered":"LLES"},"content":{"rendered":"<h1>HYRWYDDO HUNANDDISGYBLAETH, HUNAN-BARCH A HUNANHYDER YN YSGOL GYNRADD LLWYN-YR-EOS<\/h1>\n<p>Mae Ysgol yn lle i ddysgu. Mae\u2019n bwysig i ni fod pob plentyn yn gwireddu ei botensial ac yn cael amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd dysgu a fydd yn helpu i ddatblygu ei sgiliau Llythrennedd a Rhifedd. Yn anad dim, rydym eisiau i\u2019r plant yn Llwyn-yr-Eos fod yn blant hyderus a hapus a dyna pam ein bod ni\u2019n ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau Personol a Chymdeithasol, hunanddisgyblaeth a lles yn fwy na dim arall yn ystod y Cyfnod Sylfaen.<\/p>\n<p>Mae\u2019r holl staff addysgu yn y Cyfnod Sylfaen wedi derbyn hyfforddiant Rhaglen Ymddygiad y Blynyddoedd Rhyfeddol ac mae\u2019r holl staff wedi derbyn hyfforddiant yr egwyddorion allweddol. Ym mis Medi 2017, cytunwyd y byddai hyn yn ffurfio sylfaen dros reoli ymddygiad ein disgyblion ieuengaf. Anela\u2019r rhaglen at ddatblygu rheolaeth gadarnhaol ar yr ystafell ddosbarth ac mae\u2019n helpu\u2019r plant i weld pam a sut y mae ymddygiad da yn cael adborth da. Rydym yn canmol ac yn canolbwyntio\u2019n barhaus ar ymddygiad da sy\u2019n ddymunol a hyd y gellir, rydym yn anwybyddu ymddygiad i\u2019r gwrthwyneb. Ein nod yw datblygu teimlad ac ethos cadarnhaol ar draws yr ystafell ddosbarth ac annog gwaith t\u00eem, ymddiriedaeth a pharch ar y cyd ar sail perthnasau cadarnhaol rhwng staff a disgyblion. Mae plant yn ymwybodol o\u2019r rheolau Aur ac o bwysigrwydd egwyddorion \u2018Rho 5 i Mi\u2019 ac rydym yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb ac i ddilyn y rhain fel rhan o amgylchedd dysgu cadarnhaol.<\/p>\n<p>Rhaid nodi serch hynny, nad yw unrhyw ymddygiad treisgar neu ymosodol yn cael ei oddef ac mae\u2019n arwain at blentyn yn cael ei roi mewn man \u2018tawel\u2019 lle bydd oedolyn yn rhoi cyfle iddo dawelu ac ystyried ei ymddygiad ei hun.<\/p>\n<p>Wrth gamymddwyn, yn syml mae plant eisiau sylw. Rydym eisiau i\u2019n plant wybod ein bod ni\u2019n cydnabod ymddygiad priodol a phan fyddwn ni\u2019n gweld yr ymddygiad hwn, rydym yn cydnabod ac yn canmol, gan hynny yn eu hannog i ymddwyn fel hyn yn amlach. Os allwn ni, hyd y gellir, rydym yn anwybyddu ymddygiad nad ydym eisiau ei weld, a gobeithio bydd y plant yn sylweddoli nad yw hyn yn arwain at sylw ac yn newid y ffordd y maen nhw\u2019n ymddwyn.<\/p>\n<p>Ochr yn ochr \u00e2\u2019r rhaglen hon, mae Llwyn-yr-Eos yn ysgol Ymwybodol o Ymlyniad (Attachment Aware) ac mae staff wedi derbyn Hyfforddiant Emosiwn. Golyga hyn ein bod ni\u2019n ymwybodol y bydd profiadau cynnar plant yn effeithio\u2019n fawr ar ddatblygiad eu hymennydd ac ar \u00f4l hynny, eu hymddygiad a\u2019u gallu i ddysgu. Mae plant angen cyfleoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o emosiynau a theimladau er mwyn gweithredu i\u2019w llawn allu. Mae staff wedi\u2019u hyfforddi i ddefnyddio rhaglen hyfforddi Emosiwn 3 cham wrth ddelio gydag ymddygiad a phan fydd plant yn teimlo siom neu allan o reolaeth.<\/p>\n<p>Anelwn at gysylltu a sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda\u2019r plant fel eu bod yn teimlo\u2019n ddiogel ac yn gallu ymddiried yn yr oedolion sy\u2019n gweithio gyda hwy. Mae pob dosbarth yn annog y plant i \u2018fod yn agored\/check-in\u2019 er mwyn rhoi gwybod i staff sut y maen nhw\u2019n teimlo fel bod modd i ni ymateb yn unol \u00e2 hynny \u2013 wedi\u2019r cyfan mae gan bawb yr hawl i gael diwrnod gwael! Trwy ddeall pam y mae plentyn yn cael diwrnod gwael \u2013 os yw wedi blino neu\u2019n poeni neu\u2019n drist \u2013 byddwn yn gallu ei ddeall a\u2019i gefnogi \u2013 nid gwylltio ac yn y pendraw gwneud iddo deimlo\u2019n waeth. Mae plant yn cael eu dysgu i adnabod ac enwi eu teimladau a gwybod ei bod hi\u2019n iawn i deimlo\u2019n grac neu\u2019n flin ond weithiau nid yw\u2019r ffordd yr ydym yn ymddwyn oherwydd y teimladau hyn yn iawn. Trwy siarad ac addysgu am emosiynau a theimladau anelwn at wella iechyd meddwl ein plant yn ifanc, gan obeithio atal problemau posibl yn ddiweddarach mewn bywyd.<\/p>\n<p>Cefnogir ein gwaith hyfforddiant Emosiwn yn y Cyfnod Sylfaen gan ein canolfannau anogaeth, Y Nyth Bach ac Y Nyth, ac mae plant yn gallu cael mynediad at y cyfleuster hwn ar wahanol adegau ar ddisgresiwn yr athro dosbarth. Rhoddir amser i\u2019r plant ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando, siarad am eu teimladau a\u2019u hemosiynau, chwarae gemau a chwblhau tasgau sy\u2019n gofyn am waith t\u00eem neu gymryd tro ac yn gyffredinol yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol. Mae ein plant yn ennill hyder, yn datblygu hunan-barch ac yn dysgu gwerth eu hunain ac eraill.<\/p>\n\n\t\t<style type=\"text\/css\">\n\t\t\t#gallery-1 {\n\t\t\t\tmargin: auto;\n\t\t\t}\n\t\t\t#gallery-1 .gallery-item {\n\t\t\t\tfloat: left;\n\t\t\t\tmargin-top: 10px;\n\t\t\t\ttext-align: center;\n\t\t\t\twidth: 33%;\n\t\t\t}\n\t\t\t#gallery-1 img {\n\t\t\t\tborder: 2px solid #cfcfcf;\n\t\t\t}\n\t\t\t#gallery-1 .gallery-caption {\n\t\t\t\tmargin-left: 0;\n\t\t\t}\n\t\t\t\/* see gallery_shortcode() in wp-includes\/media.php *\/\n\t\t<\/style>\n\t\t<div data-carousel-extra='{&quot;blog_id&quot;:1,&quot;permalink&quot;:&quot;https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/&quot;}' id='gallery-1' class='gallery galleryid-2695 gallery-columns-3 gallery-size-thumbnail'><dl class='gallery-item'>\n\t\t\t<dt class='gallery-icon landscape'>\n\t\t\t\t<a href='https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb1.jpg'><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"150\" height=\"150\" src=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb1-150x150.jpg\" class=\"attachment-thumbnail size-thumbnail\" alt=\"\" data-attachment-id=\"2561\" data-permalink=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/wb1-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb1.jpg\" data-orig-size=\"748,421\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"wb1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-medium-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb1-300x169.jpg\" data-large-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb1.jpg\" \/><\/a>\n\t\t\t<\/dt><\/dl><dl class='gallery-item'>\n\t\t\t<dt class='gallery-icon portrait'>\n\t\t\t\t<a href='https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb2-e1522327536708.jpg'><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"150\" height=\"150\" src=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb2-e1522327536708-150x150.jpg\" class=\"attachment-thumbnail size-thumbnail\" alt=\"\" data-attachment-id=\"2562\" data-permalink=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/wb2-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb2-e1522327536708.jpg\" data-orig-size=\"437,778\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"wb2\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-medium-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb2-e1522327536708-169x300.jpg\" data-large-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb2-e1522327536708.jpg\" \/><\/a>\n\t\t\t<\/dt><\/dl><dl class='gallery-item'>\n\t\t\t<dt class='gallery-icon portrait'>\n\t\t\t\t<a href='https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb3-e1522327517659.jpg'><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"150\" height=\"150\" src=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb3-e1522327517659-150x150.jpg\" class=\"attachment-thumbnail size-thumbnail\" alt=\"\" data-attachment-id=\"2563\" data-permalink=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/wb3-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb3-e1522327517659.jpg\" data-orig-size=\"488,653\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"wb3\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-medium-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb3-e1522327517659-224x300.jpg\" data-large-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb3-e1522327517659.jpg\" \/><\/a>\n\t\t\t<\/dt><\/dl><br style=\"clear: both\" \/><dl class='gallery-item'>\n\t\t\t<dt class='gallery-icon portrait'>\n\t\t\t\t<a href='https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb4-e1522327497579.jpg'><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"150\" height=\"150\" src=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb4-e1522327497579-150x150.jpg\" class=\"attachment-thumbnail size-thumbnail\" alt=\"\" data-attachment-id=\"2564\" data-permalink=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/wb4-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb4-e1522327497579.jpg\" data-orig-size=\"576,1024\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"wb4\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-medium-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb4-e1522327497579-169x300.jpg\" data-large-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb4-e1522327497579-576x1024.jpg\" \/><\/a>\n\t\t\t<\/dt><\/dl><dl class='gallery-item'>\n\t\t\t<dt class='gallery-icon portrait'>\n\t\t\t\t<a href='https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb5-e1522327473954.jpg'><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"150\" height=\"150\" src=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb5-e1522327473954-150x150.jpg\" class=\"attachment-thumbnail size-thumbnail\" alt=\"\" data-attachment-id=\"2565\" data-permalink=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/wb5-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb5-e1522327473954.jpg\" data-orig-size=\"530,943\" data-comments-opened=\"0\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"wb5\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-medium-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb5-e1522327473954-169x300.jpg\" data-large-file=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/wb5-e1522327473954.jpg\" \/><\/a>\n\t\t\t<\/dt><\/dl>\n\t\t\t<br style='clear: both' \/>\n\t\t<\/div>\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>HYRWYDDO HUNANDDISGYBLAETH, HUNAN-BARCH A HUNANHYDER YN YSGOL GYNRADD LLWYN-YR-EOS Mae Ysgol yn lle i ddysgu. Mae\u2019n bwysig i ni fod pob plentyn yn gwireddu ei botensial ac yn cael amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd dysgu a fydd yn helpu i ddatblygu ei sgiliau Llythrennedd a Rhifedd. Yn anad dim, rydym eisiau i\u2019r plant yn Llwyn-yr-Eos fod yn blant hyderus a&nbsp;<a href=\"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/about\/lles\/\" class=\"read-more\">Continue Reading<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":2561,"parent":2602,"menu_order":10,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-fullwidth.php","meta":{"jetpack_post_was_ever_published":false,"footnotes":""},"class_list":["post-2695","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/P9q3xc-Ht","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2695","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2695"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2695\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2696,"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2695\/revisions\/2696"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2602"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2561"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llwyn-yr-eos.ceredigion.sch.uk\/cms\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2695"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}