Cynhyrchiad Nadolig

Gan fod nifer y disgyblion wedi cynyddu o fewn yr ysgol, bydd y cynhyrchiad Nadolig ychydig yn wahanol eleni.

Rhennir y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a bydd dau berfformiad gwahanol.

Cynhelir y ddau berfformiad yn Neuadd Iau yr ysgol.

Bydd y Cyfnod Sylfaen (Meithrin – Blwyddyn2) yn perfformio ar brynhawn dydd Llun, Rhagfyr 10fed, gan ddechrau am 1.30yh. Agorir y drysau am 1yh.
Bydd y Cyfnod Sylfaen hefyd yn perfformio sioe ar nos Fawrth, Rhagfyr 11eg am 5.30yh. Agorir y drysau am 5yh a bydd angen i’r plant fod nôl yn yr ysgol gyda’u hathrawon dosbarth erbyn 5yh.
Bydd Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 3-6) yn perfformio ar nos Lun, Rhagfyr 10fed am 5.30yh. Agorir y drysau am 5pm a bydd angen i’r plant fod nôl yn yr ysgol gyda’u hathrawon dosbarth erbyn 5pm.
Bydd Cyfnod Allweddol 2 hefyd yn perfformio ar brynhawn dydd Mawrth, Rhagfyr 11eg gan ddechrau am 1.30yh. Agorir y drysau am 1yh.
Bydd rhieni/gwarchodwyr yn derbyn llythyron maes o law gan athro dosbarth eu plentyn yn nodi pa wisgoedd a phrops fydd angen ar gyfer y sioe.

Bydd tocynnau ar werth o Dachwedd 26ain ymalen a gellir eu prynu o’r ffreutur bob bore rhwng 8.30yb a 9.0Oyb

Ni ellir cadw tocynnau, felly, cyntaf i’r felin. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r ysgol.

Gyda diolch.

Comments are closed.