Y Nyth

Croeso i’r Nyth, y garafán sefydlog sydd wedi’i hadfywio! Y Nyth yw canolfan anogaeth a lles ar ochr iau'r ysgol. Anela Y Nyth at:

  • Adeiladu ar gryfderau a diddordebau plant er mwyn annog synnwyr o gyflawniad a llwyddiant.
  • Codi hunan-barch a datblygu sgiliau cymdeithasol ac agwedd gadarnhaol.
  • Datblygu amgylchedd cyfeillgar rhwng rhieni, plant a staff.
  • Darparu ymyrraeth ddwys tymor byr yn hytrach na lleoliad hirdymor.
  • Darparu amgylchedd diogel a strwythuredig, gan gynnig cyfleoedd i blant i ddatblygu yn emosiynol ac yn gymdeithasol.
  • Cynnig cyfle i ddysgu trwy brofiadau mewn amgylchedd diogel.

Byddwn ni fel staff yn:

  • Ddibynadwy ac yn gyson.
  • Cynnig amgylchedd gofalus, tawel a diogel er mwyn i’ch plentyn wireddu ei botensial.
  • Gwerthfawrogi ac yn parchu eich plentyn fel unigolyn.
  • Annog annibyniaeth eich plentyn
  • Annog eich plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau/profiadau newydd a chyffrous
  • Annog sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.
  • Gweithio’n agos gydag athrawon prif ffrwd.