LLES

HYRWYDDO HUNANDDISGYBLAETH, HUNAN-BARCH A HUNANHYDER YN YSGOL GYNRADD LLWYN-YR-EOS

Mae Ysgol yn lle i ddysgu. Mae’n bwysig i ni fod pob plentyn yn gwireddu ei botensial ac yn cael amrywiaeth o brofiadau a chyfleoedd dysgu a fydd yn helpu i ddatblygu ei sgiliau Llythrennedd a Rhifedd. Yn anad dim, rydym eisiau i’r plant yn Llwyn-yr-Eos fod yn blant hyderus a hapus a dyna pam ein bod ni’n ymdrechu i ddatblygu eu sgiliau Personol a Chymdeithasol, hunanddisgyblaeth a lles yn fwy na dim arall yn ystod y Cyfnod Sylfaen.

Mae’r holl staff addysgu yn y Cyfnod Sylfaen wedi derbyn hyfforddiant Rhaglen Ymddygiad y Blynyddoedd Rhyfeddol ac mae’r holl staff wedi derbyn hyfforddiant yr egwyddorion allweddol. Ym mis Medi 2017, cytunwyd y byddai hyn yn ffurfio sylfaen dros reoli ymddygiad ein disgyblion ieuengaf. Anela’r rhaglen at ddatblygu rheolaeth gadarnhaol ar yr ystafell ddosbarth ac mae’n helpu’r plant i weld pam a sut y mae ymddygiad da yn cael adborth da. Rydym yn canmol ac yn canolbwyntio’n barhaus ar ymddygiad da sy’n ddymunol a hyd y gellir, rydym yn anwybyddu ymddygiad i’r gwrthwyneb. Ein nod yw datblygu teimlad ac ethos cadarnhaol ar draws yr ystafell ddosbarth ac annog gwaith tîm, ymddiriedaeth a pharch ar y cyd ar sail perthnasau cadarnhaol rhwng staff a disgyblion. Mae plant yn ymwybodol o’r rheolau Aur ac o bwysigrwydd egwyddorion ‘Rho 5 i Mi’ ac rydym yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb ac i ddilyn y rhain fel rhan o amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Rhaid nodi serch hynny, nad yw unrhyw ymddygiad treisgar neu ymosodol yn cael ei oddef ac mae’n arwain at blentyn yn cael ei roi mewn man ‘tawel’ lle bydd oedolyn yn rhoi cyfle iddo dawelu ac ystyried ei ymddygiad ei hun.

Wrth gamymddwyn, yn syml mae plant eisiau sylw. Rydym eisiau i’n plant wybod ein bod ni’n cydnabod ymddygiad priodol a phan fyddwn ni’n gweld yr ymddygiad hwn, rydym yn cydnabod ac yn canmol, gan hynny yn eu hannog i ymddwyn fel hyn yn amlach. Os allwn ni, hyd y gellir, rydym yn anwybyddu ymddygiad nad ydym eisiau ei weld, a gobeithio bydd y plant yn sylweddoli nad yw hyn yn arwain at sylw ac yn newid y ffordd y maen nhw’n ymddwyn.

Ochr yn ochr â’r rhaglen hon, mae Llwyn-yr-Eos yn ysgol Ymwybodol o Ymlyniad (Attachment Aware) ac mae staff wedi derbyn Hyfforddiant Emosiwn. Golyga hyn ein bod ni’n ymwybodol y bydd profiadau cynnar plant yn effeithio’n fawr ar ddatblygiad eu hymennydd ac ar ôl hynny, eu hymddygiad a’u gallu i ddysgu. Mae plant angen cyfleoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o emosiynau a theimladau er mwyn gweithredu i’w llawn allu. Mae staff wedi’u hyfforddi i ddefnyddio rhaglen hyfforddi Emosiwn 3 cham wrth ddelio gydag ymddygiad a phan fydd plant yn teimlo siom neu allan o reolaeth.

Anelwn at gysylltu a sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda’r plant fel eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu ymddiried yn yr oedolion sy’n gweithio gyda hwy. Mae pob dosbarth yn annog y plant i ‘fod yn agored/check-in’ er mwyn rhoi gwybod i staff sut y maen nhw’n teimlo fel bod modd i ni ymateb yn unol â hynny – wedi’r cyfan mae gan bawb yr hawl i gael diwrnod gwael! Trwy ddeall pam y mae plentyn yn cael diwrnod gwael – os yw wedi blino neu’n poeni neu’n drist – byddwn yn gallu ei ddeall a’i gefnogi – nid gwylltio ac yn y pendraw gwneud iddo deimlo’n waeth. Mae plant yn cael eu dysgu i adnabod ac enwi eu teimladau a gwybod ei bod hi’n iawn i deimlo’n grac neu’n flin ond weithiau nid yw’r ffordd yr ydym yn ymddwyn oherwydd y teimladau hyn yn iawn. Trwy siarad ac addysgu am emosiynau a theimladau anelwn at wella iechyd meddwl ein plant yn ifanc, gan obeithio atal problemau posibl yn ddiweddarach mewn bywyd.

Cefnogir ein gwaith hyfforddiant Emosiwn yn y Cyfnod Sylfaen gan ein canolfannau anogaeth, Y Nyth Bach ac Y Nyth, ac mae plant yn gallu cael mynediad at y cyfleuster hwn ar wahanol adegau ar ddisgresiwn yr athro dosbarth. Rhoddir amser i’r plant ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando, siarad am eu teimladau a’u hemosiynau, chwarae gemau a chwblhau tasgau sy’n gofyn am waith tîm neu gymryd tro ac yn gyffredinol yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol. Mae ein plant yn ennill hyder, yn datblygu hunan-barch ac yn dysgu gwerth eu hunain ac eraill.