Amdanom Ni

Ysgol Llwyn-yr-Eos

Croeso i wefan ein hysgol. Mae Ysgol Llwyn-yr-Eos yn ysgol gynradd gymunedol fawr sy’n darparu ar gyfer plant o 3 i 11 oed. Mae Ysgol Llwyn-yr-Eos wedi’i lleoli ym Mhenparcau ar gyrion tref arfordirol hyfryd Aberystwyth.

Mae ein hysgol yn rhan annatod o’n cymuned a thrwy bartneriaeth gyda rhieni rydym yn hyrwyddo awyrgylch sy’n galluogi i’n disgyblion fod yn hyderus ac yn hapus. Mae Ysgol Llwyn-yr-Eos wrth galon campws i blant. Anelwn at gefnogi plant a’u teuluoedd trwy gynnig gwasanaeth integredig wedi’i gydlynu ochr yn ochr â Meithrinfa Ffrindiau Bach yr Eos, Dechrau’n Deg, Canolfan i Deuluoedd, a RAY Ceredigion.

Mae Ysgol Llwyn-yr-Eos yn ysgol gynradd prif ffrwd sy’n cadw at anghenion academaidd a bugeiliol pob disgybl. Cyflwynir ein haddysg ar ddau safle ar wahân o dan arweinyddiaeth ac arweiniad y Pennaeth, Mr Brian Evans. Ynghyd â chynnig darpariaeth prif ffrwd o ansawdd uchel, mae gan yr ysgol 4 canolfan adnoddau arbenigol hefyd ar y safle sy’n cynnig addysg o’r ansawdd uchaf i blant gydag awtistiaeth, anhwylderau dysgu lluosog dwys ac anawsterau cyfathrebu lleferydd ac iaith. Mae Ysgol Llwyn-yr-Eos yn falch hefyd o gael canolfan fugeiliol a lles ar y safle.

Photo © Ian Capper (cc-by-sa/2.0)

Rydym yn hynod falch o’r hyn mae’r disgyblion yn ei gyflawni yn yr ysgol a thrwy arwyddair ein hysgol ‘Cyfle, Cyfrifoldeb, Cymuned’, mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi a llwyddiannau’n cael eu dathlu o fewn cwricwlwm bywiog, arloesol a chyfannol. Yn ystod cyfnod y disgyblion yn yr ysgol mae eu lles yn ganolog i’n holl benderfyniadau ac rydym yn awyddus i weithio gyda rhieni/gofalwyr i gymell addysg gynradd wych o fewn amgylchedd hapus ac iach.

DATGANIAD CENHADAETH

Mae pob plentyn o bwys yn Ysgol Llwyn-yr-Eos. Mae ein tîm brwdfrydig ac ymroddgar o staff yn gweithio’n gydwybodol i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus. Rydym yn cynnig cyfleoedd i bob disgybl ac yn ystod eu llwybr dysgu ein nod yw eu harwain a’u cyfarparu â’r sgiliau sy’n ofynnol i gael dyfodol disglair a llwyddiannus.

CYMUNED

Mae ein hysgol yn rhan annatod o’n cymuned a thrwy bartneriaeth rhieni rydym yn hyrwyddo amgylchedd sy’n galluogi i’n disgyblion fod yn hyderus ac yn hapus.

CANLYNIADAU ESTYN

Cliciwch yma i lawrlwytho
Adroddiad Estyn Llwyn-yr-Eos 2013