Urdd Caerdydd

Teithiodd grwp o 37 o blant blwyddyn 3 a 4 ar drip yr Urdd I Gaerdydd am noson ar ddechrau mis Chwefror. Fe adawon yr ysgol yn gynnar ar fore Gwener er mwny cyrraedd The Royal Mint mewn da bryd I gael gweld sut mae arian yn cael ei wneud. Ar ol cinio aethant yn syth I’r Bae yng Nghaerdydd er mwyn cael gweld eu hystafelloedd am y noson. Cawsant ddau ddiwrnod yn llawn o weithgareddau amrywiol – bowlio deg, pryd o fwyd tseiniaidd, wac o gwmpas Stadiwm Principality, taith mewn cwch cyflym ogwmpas y Bae, noson ffilm yn ogystal a gweithgareddau yng Nghanolfan y Mileniwm.

Cafodd pob un brofiad arbennig ac roeddent yn ysu I gael rhannu’r newyddion am y penwythnos ar fore dydd Llun.

Comments are closed.