Croeso i’r Nyth, y garafán sefydlog sydd wedi’i hadfywio! Y Nyth yw canolfan anogaeth a lles ar ochr iau'r ysgol. Anela Y Nyth at:
- Adeiladu ar gryfderau a diddordebau plant er mwyn annog synnwyr o gyflawniad a llwyddiant.
- Codi hunan-barch a datblygu sgiliau cymdeithasol ac agwedd gadarnhaol.
- Datblygu amgylchedd cyfeillgar rhwng rhieni, plant a staff.
- Darparu ymyrraeth ddwys tymor byr yn hytrach na lleoliad hirdymor.
- Darparu amgylchedd diogel a strwythuredig, gan gynnig cyfleoedd i blant i ddatblygu yn emosiynol ac yn gymdeithasol.
- Cynnig cyfle i ddysgu trwy brofiadau mewn amgylchedd diogel.
Byddwn ni fel staff yn:
- Ddibynadwy ac yn gyson.
- Cynnig amgylchedd gofalus, tawel a diogel er mwyn i’ch plentyn wireddu ei botensial.
- Gwerthfawrogi ac yn parchu eich plentyn fel unigolyn.
- Annog annibyniaeth eich plentyn
- Annog eich plentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau/profiadau newydd a chyffrous
- Annog sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.
- Gweithio’n agos gydag athrawon prif ffrwd.
You must be logged in to post a comment.