ALC1

ALC1 / Dolffiniaid

Rydym yn cynnig addysg a chefnogaeth arbennig i blant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Credwn y dylai pob plentyn gael cyfle i wireddu eu potensial trwy gwricwlwm cytbwys o fewn y blaenoriaethau a ganlyn:

  • Caffael a datblygu sgiliau lleferydd ac iaith;
  • Datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd;
  • Datblygu sgiliau emosiynol a chymdeithasol ac agweddau sy’n hyrwyddo hunanddisgyblaeth a hunan-barch.

Rheolir Dolffiniaid gan Miss Sandford a Miss Mansfield ynghyd â thîm ymroddedig o staff, Mrs Morgan, Miss Flint, Mrs Goodman a Miss Livermore. Mae gan yr holl blant fynediad rheolaidd at Mrs Viv Newman a Mrs Alex Jones – ein therapyddion lleferydd ac iaith. Maen nhw’n cynnig rhaglen lleferydd ac iaith unigol i bob plentyn sy’n cael ei datblygu ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol o fewn ein canolfan adnoddau.

Mae ein haddysgu yn ddyddiol yn integreiddio pob agwedd ar y cwricwlwm ac fe’i cynhelir ar lefel iaith sy’n briodol i bob plentyn unigol. Rydym yn cael hwyl wrth ddysgu ac yn cyfuno ein sesiynau ymarferol gyda gweithgareddau ysgrifennu mwy ffurfiol. Rydym yn hyrwyddo integreiddio i leoliad ystafell ddosbarth prif ffrwd lle bynnag fo hynny’n briodol i helpu’r plentyn i ffurfio perthnasau gyda phlant eu hoed eu hunain. Mae ein ‘gwibdeithiau cymdeithasol’ yn annog sgiliau cymdeithasol pan fyddwn ni allan yn y gymuned, ac anelwn at fynd allan yn wythnosol.

Mae pob plentyn dan ein gofal yn unigryw gyda’u ffordd ddysgu unigol eu hunain. Mae’r tîm cyfan yn Dolffiniaid y falch iawn o lwyddiannau pob plentyn a thrwy brofiadau hwyliog a rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth a chefnogaeth barhaus gan ein rhieni /gofalwyr, anelwn at barhau i gyflenwi addysg gynradd wych.

Comments are closed.