ALC2

Mae ALC 2 yn cynnig addysg arbenigol a chefnogaeth i blant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Anelwn at gynnig cynifer o gyfleoedd â phosibl i’ch plentyn gael profiadau dysgu pleserus. Ceisiwn  annog eu sgiliau academaidd, hunanymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas a’u gallu i gyfathrebu.

Rheolir ALC 2 o dan arweiniad Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) yr ysgol, Mrs Gaskell, gyda’r plant yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar o staff. Mrs Ricketts, Mr Northover a Miss Haynes. Mae’r plant yn cael eu dysgu hefyd gan Mr James a Mrs Northover yn wythnosol. Mae gan yr holl blant yn ALC 2 fynediad rheolaidd at Mrs Viv Newman – Therapydd Lleferydd ac Iaith ac mae’n cynnig rhaglen unigol i bob plentyn sydd wedi’i datblygu ochr yn ochr ag ymarferwyr profiadol o fewn y ganolfan adnoddau.

Yn ddyddiol mae plant yn integreiddio i mewn ac allan o ALC 2 er mwyn cael mynediad at ddarpariaeth a chefnogaeth briodol. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu sgiliau cymdeithasol plant ynghyd â rhoi cyfle i bob disgybl gael mynediad at addysg prif ffrwd gyda’u cyfoedion. Mae sgiliau cymdeithasol hefyd yn cael eu hannog yn ystod ein ‘gwibdeithiau’ i’r gymuned leol yn wythnosol.

Rydym yn falch iawn o’r hyn mae’r plant yn ALC 2 yn ei gyflawni. Mae ein holl ddisgyblion yn cael eu gwerthfawrogi a llwyddiannau yn cael eu dathlu o fewn ystafell ddosbarth bywiog, cyffrous ac egnïol. Mae lles ein disgyblion yn ganolog i’n holl benderfyniadau ac rydym yn awyddus i weithio gyda rhieni/gofalwyr i gymell addysg gynradd wych.

Comments are closed.