Mae Enfys yn Ganolfan Adnoddau Arbenigol i blant ag awtistiaeth.
Rydym yn gweithio gyda phlant o 3 i 11 oed.
Credwn fod pob plentyn yn unigryw.
Rydym yn cynnig amgylchedd hwyliog a diogel er mwyn i blant, teuluoedd a staff ddysgu, arsylwi, datrys problemau, herio a dathlu gyda’i gilydd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu a hwyluso rhaglenni addysg sy’n anelu at fodloni anghenion unigol yn ddyddiol gyda’r nod hirdymor o alluogi i unigolion gyfathrebu a datblygu sgiliau bywyd annibynnol.
Croesawir plant a’u teuluoedd i Enfys a’u cefnogi gan dîm arbenigol o staff.
Y Tîm Enfys
Rydym yn falch ac yn teimlo’n angerddol am y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac yn ymdrechu i gynnig y gefnogaeth a’r cyfleodd gorau i’n holl ddisgyblion. Mae disgyblion yn elwa o staff ymroddgar, medrus a phrofiadol sydd â disgwyliadau eithriadol o uchel, a dealltwriaeth fanwl o sut maen nhw’n dysgu. Mae ymroddiad y staff i’r disgyblion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob plentyn
Mae’r tîm Enfys yn gweithio gyda’i gilydd i osod targedau unigol sy’n hysbysu cynllunio, cyflenwi a mesur cynnydd disgyblion. Rydym yn ystyried pob plentyn yn unigolyn ac yn rhoi ymdrech ac egni parhaus i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Gweithiwn yn agos gyda thimau amlasiantaeth gan gynnwys Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Tîm Plant Anabl, Gweithwyr Proffesiynol Seicoleg a Meddygol. Mae amserlenni a rhaglenni unigol o ddarpariaeth yn helpu i sicrhau bod disgyblion yn cael eu herio ar lefel briodol yn ddyddiol, yn datblygu sgiliau cyfathrebu ac yn profi cwricwlwm amrywiol iawn.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Mae pob plentyn yn Enfys yn rhan bwysig o gymuned Ysgol Llwyn-yr-Eos. Mae ein haddysg a dysgu yn digwydd o fewn bywyd bob dydd yn ogystal â lleoliadau traddodiadol yr ystafell ddosbarth
Gyda’r ymdriniaeth hon, mae cyfnodau dysgu ac addysgadwy yn cael eu deall yn y synnwyr eang iawn, ac fe all gynnwys, er enghraifft, dilyn trefnau a strwythurau dyddiol bob dydd, sgiliau bywyd i helpu i ddeall y byd yr ydym yn dysgu o’i fewn, gan gymryd cyfrifoldeb dros roi cynnig ar dasgau a swyddi ymarferol, a bod yn rhan o broses dysgu gydol oes gyfan.
Enghreifftiau o ble’r ydym yn dysgu:
- Yn yr ystafell ddosbarth,
- Yn ein gardd,
- Integreiddio gyda dosbarthiadau prif ffrwd,
- Amser chwarae,
- Ymweliadau cymunedol,
- Siopa ac ymweliadau â’r caffi,
- Mynd am dro trefol a gwledig,
- Digwyddiadau arbennig a theithiau,
- Nofio, marchogaeth,
- Yn yr ysgol ac yn y cartref, cwricwlwm 24 awr.
Yn ein barn ni, nid o fewn yr ystafell ddosbarth yn unig y gellir cynnal gwersi a dysgu. Mae Enfys yn lleoliad gwych yn agos at amrywiaeth eang o amgylcheddau. Mae gennym y dref a’r wlad ar garreg ein drws. O fewn pellter cerdded mae gennym dref Aberystwyth, afonydd, traethau, coedwig ac ardaloedd preswyl. Mae gennym ddefnydd bws mini'r ysgol hefyd sy’n galluogi inni deithio ychydig yn bellach a mynd i nofio yng Nghanolfan Hamdden Plascrug bob pythefnos, ac mae grŵp bach yn cymryd rhan yn sesiynau marchogaeth ceffylau RDA bob wythnos.
Rydym yn cynnig amgylchedd hwyliog a diogel lle mae plant, teuluoedd a staff yn dysgu, arsylwi, datrys problemau, herio a dathlu gyda’i gilydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
You must be logged in to post a comment.