Blwyddyn 3

Blwyddyn 3 Rheidol

Mae 22 o ddisgyblion hapus a bywiog ym Mlwyddyn 3 Rheidol sy’n aml yn cael cwmni eu cyfeillion o Flwyddyn 3 Ystwyth. Mrs Pugh-Jones yw’r athrawes ddosbarth, sy’n cael ei chefnogi’n agos gan ddwy Gynorthwyydd Addysgu sy’n gweithio’n rhan amser yn y dosbarth; mae Mrs Evans yn cefnogi ar Ddyddiau Llun a Mawrth, Miss Haynes yn cefnogi'r dosbarth ar Ddyddiau Mercher, Iau a Gwener.

Rydym yn dechrau bob bore gyda Llythrennedd a Mathemateg ac mae’r prynhawniau wedi’u llenwi â phynciau eraill y cyfnod sylfaen ynghyd â Gwyddoniaeth a Chymraeg.

Mae Hanes a Daearyddiaeth yn cael eu dysgu gan Miss Johnson a Mrs Northover.

Mae’r plant yn mwynhau nofio bob dydd Mercher ynghyd ag Addysg Gorfforol yn y prynhawn.

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi dysgu am ‘Y Celtiaid’, ‘Dathliadau o Amgylch y Byd’, ‘Chwedlau’, ‘Glan y Môr’. Ar ôl y Pasg byddwn yn dysgu am yr ‘Ardal Leol’ ynghyd ag ymchwilio i’r ‘Byd Chwaraeon’. Trwy’r testunau hyn rydym yn cael cyfle i archwilio, ymchwilio ac adrodd ar nifer o ffeithiau diddorol a gwybodaeth.

Blwyddyn 3 Ystwyth

Ar hyn o bryd mae Blwyddyn 3 wedi’i rhannu rhwng dau ddosbarth. Yn nosbarth blwyddyn 3 Ystwyth mae 18 o ddisgyblion gwych. Miss Johnson a Miss Arthur yw’r athrawon dosbarth, gyda Miss Johnson yn addysgu o Ddyddiau Llun i Mercher a Miss Arthur yn addysgu Dyddiau Iau a Gwener. Mae Mr James yn dysgu nofio, celf ac addysg grefyddol. Cefnogir Blwyddyn 3 Ystwyth gan ddau o Gynorthwywyr Addysgu gwych sef Mrs Evans a Ms Pierpoint.

Ochr yn ochr â phynciau craidd, hyd yma eleni rydym wedi astudio'r Celtiaid, ‘Dathliadau o Amgylch y Byd’, ‘Chwedlau’, ‘Glan y Môr’ ac ar ôl y Pasg byddwn yn astudio’r ‘Ardal Leol’. Byddwn yn cloi’r flwyddyn trwy ymchwilio i’r Byd Chwaraeon.

Rydym yn falch o bob disgybl yn yr ystafell ddosbarth a’n prif nod yw sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ac yn gadael y dosbarth yn hapus.

Comments are closed.