BLWYDDYN 2

Ym Mlwyddyn 2 rydym yn ffodus iawn o gael 2 ystafell ddosbarth eang a mynediad uniongyrchol i ardal awyr agored. Mae’r ddwy ystafell ddosbarth wedi’u trefnu yn wahanol ardaloedd sy’n caniatáu i’n plant gael mynediad at holl ardaloedd cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Anogir plant i ddilyn eu diddordebau eu hunain trwy weithgareddau Llais y Disgybl, lle maen nhw’n cynllunio eu gweithgareddau eu hunain yn ystod amser dewis. Rydym yn gweithio’n galed i gynnig gweithgareddau diddorol ac ysgogol a fydd yn ysbrydoli plant i eisiau dysgu mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Mae testunau bach yn sicrhau bod holl agweddau ar y cwricwlwm wedi’u cynnwys, ac ymroir i annog plant i ddysgu mwy am y byd lle maen nhw’n byw.

Trwy gydol y flwyddyn, yn gyffredinol rydym yn ymdrin â thair thema. Yn ystod tymor yr Hydref, rydym yn dysgu am ein cyrff rhyfeddol, ynghyd â dysgu am yr Hydref a gwyliau megis Rosh Hashanah a Divali. Yn nhymor y Gwanwyn rydym yn canolbwyntio ar wyliau a dathliadau megis Blwyddyn Newydd Tsieinëeg a’r Pasg. Mae’r plant hefyd yn mwynhau dysgu am Santes Dwynwen, Dewi Sant a pherfformio yn Eisteddfod yr ysgol. Yn ystod tymor yr Haf, rydym yn cael llawer o hwyl gyda’r testun Môr Ladron!

Mae tîm Blwyddyn 2 yn cynnwys Mrs Donna Fitches, athrawes dosbarth, Mrs Shan Davies a Miss Anna Gwillim, cynorthwywyr addysgu.

Comments are closed.